Ymchwil newydd , llythrennedd iechyd

Newydd ddechrau ym mhrifysgol Abertawe, mewn maes newydd i fi sef llythrennedd iechyd, ac fyddai’n edrych ar rhwydweithiau cymdeithasol pobol hyn (defnyddio’r Convoy Model), yn enwedig rhai sydd yn byw gyda unai iselder neu diabetes – ond y prif nod yw gweld beth yw eu llythrennedd iechyd, gan ystyried fod hwn yn rhywbeth cyhyrchiol, sy’n newid dros fywyd. Gweithio gyda Dr Michelle Edwards ar hyn.

Gwaith ansoddol fydd hwn, ac mae’n dod ar ben prosiect hirdymor mawr sydd wedi bod yn mynd ers tua 1991, sef CFAS: mae dipyn o’r gwaith yma wedi wneud eisioes o Brifysgol Bangor, a fyddai’n rhan o dîm ehangach. Wedi dweud hyn, mae’r methdoleg i’r prif astudiaeth yn fwy meintiol, gyda’r tîm ymchwilwyr yn mynd allan i holi sampl ar hap o bobl dros 65, ond drwy defnyddio holiadur penodol, weddol hir. Mae’r prosiect yma wedi creu dros 200 o bapurau pwysig yn y maes. O be dwi’n ddallt, llawer o’r ffeithiau am dementia ac Alzheimers yn deillio o’r astudiaeth bwysig yma bellach, ac mae nhw’n gweithio’n agos gyda Cymdeithas Alzheimers, er enghraifft.

Bydd ein gwaith ni yn fwy agored, mwy o sgwrs na’r holiadur yma. Yn y broses o ddarllenb mwy am  cfendir, onbd cyn mynd am y gwaith, ges i foment clir oedd yn cysylltu pethau i fi yn bersonol, trwy fy ngwaith gyda Inroads neu S4C Cymorth, neu gwaith ymchwil yn y gorffenol sydd wedi edrych ar anghenion iechyd, neu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol. Nes i sylwi, am y tro cyntaf bron iawn, mai wrth wraidd lot o be dwi’n wneud mae syniadau yn ymwneud â hybu iechyd yn yr ystyr a ddaw o ddogfennau pwysig (chwyldroadol…?) fel yr Ottawa Charter.