Mae Pawb yn darparu tri phrif wasanaeth:
- ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd a sectorau
- cynnwys hygyrch, diduedd i unigolion a grwpiau fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus
- cefnogaeth ymarferol ar gyfer y cyfryngau neu ymgyrchoedd rhyngweithiol ar draws y cyfryngau
- Rydym fel arfer yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cwmnïau cyfryngau a darlledwyr, academyddion neu gyda chwmnïau ymchwil masnachol.
Ers ei sefydlu yn 2002, mae Pawb Cyf wedi gweithio ar ystod eang iawn o brosiectau, rhai yn elusennol ac yn gymdeithasol sensitif eu natur, eraill ar sail fasnachol yn unig. Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.