Ymchwil newydd , llythrennedd iechyd

Newydd ddechrau ym mhrifysgol Abertawe, mewn maes newydd i fi sef llythrennedd iechyd, ac fyddai’n edrych ar rhwydweithiau cymdeithasol pobol hyn (defnyddio’r Convoy Model), yn enwedig rhai sydd yn byw gyda unai iselder neu diabetes – ond y prif nod yw gweld beth yw eu llythrennedd iechyd, gan ystyried fod hwn yn rhywbeth cyhyrchiol, sy’n newid dros fywyd. Gweithio gyda Dr Michelle Edwards ar hyn.

Gwaith ansoddol fydd hwn, ac mae’n dod ar ben prosiect hirdymor mawr sydd wedi bod yn mynd ers tua 1991, sef CFAS: mae dipyn o’r gwaith yma wedi wneud eisioes o Brifysgol Bangor, a fyddai’n rhan o dîm ehangach. Wedi dweud hyn, mae’r methdoleg i’r prif astudiaeth yn fwy meintiol, gyda’r tîm ymchwilwyr yn mynd allan i holi sampl ar hap o bobl dros 65, ond drwy defnyddio holiadur penodol, weddol hir. Mae’r prosiect yma wedi creu dros 200 o bapurau pwysig yn y maes. O be dwi’n ddallt, llawer o’r ffeithiau am dementia ac Alzheimers yn deillio o’r astudiaeth bwysig yma bellach, ac mae nhw’n gweithio’n agos gyda Cymdeithas Alzheimers, er enghraifft.

Bydd ein gwaith ni yn fwy agored, mwy o sgwrs na’r holiadur yma. Yn y broses o ddarllenb mwy am  cfendir, onbd cyn mynd am y gwaith, ges i foment clir oedd yn cysylltu pethau i fi yn bersonol, trwy fy ngwaith gyda Inroads neu S4C Cymorth, neu gwaith ymchwil yn y gorffenol sydd wedi edrych ar anghenion iechyd, neu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol. Nes i sylwi, am y tro cyntaf bron iawn, mai wrth wraidd lot o be dwi’n wneud mae syniadau yn ymwneud â hybu iechyd yn yr ystyr a ddaw o ddogfennau pwysig (chwyldroadol…?) fel yr Ottawa Charter.

Hacio Iaith 2012

Gyda ymennydd caffeinated, i ffwrdd a fi am ddiwrnod llawn yn yr Adeilad Parry-Williams. Wedi edrych ymlaen i hwn ers dipyn, ac nes i fwynhau a chael fy ysbrydoli unwaith eto’r flwyddyn yma. Yn y diwedd, bu’r digwyddiad ychydig yn wahanol i’r flwyddyn gynt: mwy o wynebau cyfarwydd i fi i ddechra, mwy o bobl sy’n ‘creu cynnwys’ neu’n ymwneud â darlledu yn yr ystyr traddodiadol. Roedd na deimlad eitha cyffrous, ‘on the cusp’ am yr holl beth. Ta waeth rhain yw’r prif nodiadau nes i gymryd yn ystod y dydd, gyda tweets @kopetatxuri hefyd yn ychwanegu rhan arall o’r stori gen i. Ddim di mentro i Storify eto. Rhain di’r nodiadau o ambell sesiwn:

Sesiwn cyntaf:

Gwaith dau fyfyriwr, Sion Richards a  Rhys Jones, edrych ar hyperlleol, neu’ ‘tra-leol’. Trafodaeth agored nath droi’n rili diddorol, lot o syniadau am hen rhwydweithiau sydd ddim yn cael eu defnyddio i’w llawn potensial yma yng Nghymru – sef y papurau bro. Enghraifft Goiena eto. Gymaint i’w ddadansoddi o’r gwefan yna yn nhermau model i ni yma. Mae’n amlwg fod darnau yn cael ei dalu dwi’n siwr e.e. ‘eskelak’, yr obits, pethau sy’n amlwg yn codi arian. Ond mae hefyd gyda cynnwys proffesiynol ‘teledu’ lleol , yn amlwg yn defnyddio model ‘citizen journalists’, felly mae’n rhaid fod hwn yn pwyntio at ffordd ymlaen i ni rhywsut. Mae’n amlwg hefyd fod yn  ffynhonellau cyllid lleol yn cael eu defnyddio, ee o lywudraeth lleol (Gipuzkoa) a llywodraeth Gwlad y Basg sydd hefo presenoldeb da eu hunain.

A yw’n bosib cael cyllid i hyfforddi pobl sydd eisioes yn mewnbynnu ar gyfrifiadur? ydyn nhw ofn colli cyllid o werthu’r papur ? Huw M. yn rhoi enghreifftiau o ddefnydd ffrwd gwahanol. Efallai fod angen dangos i bobl mai ychwanegu mae gwasnaethau ar y we, nid tynnu i ffwrdd. Beth yw’r posibilrwydd o ddefnyddio pot Communities 2.0?

Bryn Salisbury

Ail sesiwn:

Twitter dwyieithog, sut mae’r iaith wedi datblygu a newid, (Ian Johnson, pennaeth ymchwil Plaid Cymru).

Cunliffe a Honeycutt – Ymchwil Facebook

Astudiaeth bychan, ‘cymuned’, grwp eitha llac (25 wedi eu dilyn dros gyfnod o 3 mlynedd), ac wedi defnydio SS19, i wneud yr analyisis oedd yn un fwy meintiol.effaith y botwm RT – pobl yn gyru mwy o ddeunydd yn saesneg – newid y technoleg o gwmpas y user interface yn newid defnydd yr iaith pobl yn tueddu gael mwy o ‘dyddiadur agored’ i ‘sgwrs cyhoeddus’, trafod pynciau

Haclediad -trafodaeth ar SOPA, PIPA etc. , a’r holl beth yn cyrraedd pobl fel Doctorow, diddorol

Twitter a sensoriaeth – beth yw’r ddadl newydd am fod yna bosib i newid pethau fesul gwlad erbyn hyn. A wnaeth SOPA cael ei roi ar y silff am y tro oherwydd fod Obama eisiau ennill blwyddyn yma? A fydd o’n ol ar ol yr etholiadau yn Nhachwedd? Straen ar feddylfryd  ‘rhyddfrydol’ moguls Hollywood?

Sesiwn 3:

Bryn Salisbury ar  S4C, darlledu, yn gofyn  ‘ what would google do? , Jeff Jarvis – ‘give the people control….’ . Rheolau Jarvis : crynodeb da yma hefyd.

‘be a platform…’ ‘middlemen are dead’

Sesiwn 4 :

Defnyddio camerau ffilm, DSLR , Rhys Llwyd

– gallu switchio lens yn hawdd ar y math yma o gamera, http://vimeo.com/33570778

– aestheteg still yn haws i’w gael am bris rhesymol

– dan mil o bunnau!

– angen mike gwell (allanol) , defnyddio ‘pluralise’ gyda Final Cut

defnyddio final cut

Sianel 62 – 8 o’r gloch bob nos sul, 2 o oriau

mwy o gymraeg yn cael ei ddefnyddio, os ydych yn dod a’r RT

Sesiwn 5

Cyfieithu peirianyddol

Hebog

Uned Tchnolegau iaith –  http://techiaith.bangor.ac.uk/?page_id=73

Glyder – sustem ffeilio a chyfieithu

termau.org

Sesiwn 6

Defnyddio’r android emulator. Eclipse SDK i wneud stwff gyda php neu java – rhedeg android emulator

Prosiect cod agored, prosiect Replicant – fork o Android

100 string i’r cloc….

Glotpress – WordPress -yn lle agor cod, jest cyfieithu nid mesio gwmpas hefo cod

[defnyddio ‘Scratch’ – Beds – MIT]

Sesiwn 7

Wicipedia – ydi’r rheolau’n hir wyntog? Parchu hawlfraint dal yn bwysig, ond mae diffyg cyfrannwyr dal yn broblem, edrych ar

http://cy.wikipedia.org/wiki/Defnyddiwr:Ben_Bore

QRpedia http://qrpedia.org/

Creative Commons: ffordd o rannu beth da ni’n ei greu….

http://www.creativecommons.org.uk/

http://vo.do/ – model arall sy’n gweithio i werthu cynnwys, siwtio pobl sydd eisiau cael pethau i weld mwy na dim arall

Sesiwn olaf

Radio’r Cymry

Defnyddio Shoutcast servers. Wedi ‘crowdsourcio’ lot o’r wybodaeth technegol. Pa fath o gynnwys? Farchnad am gomedi a adolygu ffilmiau er enghraifft. Fydd enghreifftiau o’r math o raglenni yn mynd i fyny’n fuan. Syniad o ‘hunan gomisiynu’

……….

Prif negeseuon y diwrnod – mae’r diwylliant ‘caniatad’ ar ben – sesiwn Daniel Glyn a…… a sesiwn Huw M

Mae sawl model ar gael, rhai masnachol, tu hwnt i’r darlledwyr/ffynhonellau arferol – ond un o themau’r diwrnod i sawl sesiwn (yn fy marn i) oedd y tensiwn rhwng cael model sy’n gwneud rhywfaint i arian i bobl, ond yn annibynol – roedd esiamplau da o hyn ar gael. Sawl peth diddorol yn codi o’r model Creative Commons etc.

Beth yw gwerth cyhoeddus yn yr iaith? Rhywbeth lleol, ond sy’n gallu cynnal sgwrs ehangach hefyd. Roedd yna rhyw eironi o’n i’n teimli hefyd yn y ffaith fod y naws i Haciaith (yn fy marn i eto) yn un bell iawn  o’r meddylfryd ‘corfforaethol’ sy’n llywodraethu ymhobman, ond oedd yna fwy o ddiddrdeb corfforaethol yn y gynhadledd, yn sicr…. Felly roedd teimlad gwahanol i un blwyddyn diwethaf, fwy o ddiddordeb gan ‘cyfryngau’ arferol h.y. teledu etc. Onus mwy ar modelau sy’n mynd i ganiatau cynnwys, oedd yn beth da, ond hefyd roedd dal le i stwff fwy technegol – byddai mwy o amser a strwythur i weithdai yn syniad da efallai.

Ffrynt ddiwyllianol y Basgwyr ac Eisteddfod Llangollen

Newydd fod yn gweithio gyda chwmni teledu ar gyfweliadau o Wlad y Basg, rhai gyda grŵp dawns, Gero Axular , fydd yn dod i eisteddfod Llangollen wythnos nesaf, dod a thipyn o atgofion  personol am y lle ond hefyd sylweddoli fod yna stori dda arall i’w adrodd am gysylltiadau’r wyl gydag Euskal Herria.

Dwi’n cofio siarad gyda phobl hyn pan oeddwn i’n byw yn Donostia / San Sebastián, a chanfod eu bod nhw’n gwybod am eisteddfod Llangollen, a mwy na hynny, yn cysidro’r wyl yn un bwysig dros y blynyddoedd. Ond i fod yn onest, hyd i fi drio cyfieithu ychydig o gyfweliadau i wythnos diwethaf a gwneud bach o ymchwil, nes i’m sylweddoli faint . Mae’r rhestr o gorau a grwpiau dawns sydd wedi ennill dros y blynyddoedd yn ddigon parchus o ran ei faint, gyda rhai o’r grwpiau yma dal yn bodoli, a gyda phresenoldeb neu hanes ar gael ar y we:

Coro Easo , San Sebastián (côr dynion, 1949)

Coro Maitea, San Sebastián (côr merched, 1949),

Agrupacion Coral, Elizondo ( parti canu, 1952),

Agrupacion Coral, Elizondo ( côr cymysg, 1952)

Grupo de Danzas Vascas Goizaldi, (parti dawnsio, 1956)

Andra Mari, Galdacano (parti dawnsio, 1968)

Eskola, San Sebastián (parti dawnsio, 1991)

Kresala Euskal Dantza Taldea, San Sebastian (parti dawnsio, 1997)

Ond dwi’n meddwl fod y pwysigrwydd yn dod o’r rhai wnaeth ennill yn y 40au, 50au a 60au, pan oedd gorthrwm Franco o ddiwylliant Basgaidd ar ei anterth. Byddai’r ychydig oedd yn cael mentro tu allan i’r wlad yn y cyfnod yn mynd a neges am eu diwylliant oedd yn un yn llythrennol tu hwnt i afael Franco yn ystod wythnos yr eisteddfod. Roedd y cof yma dal yn fyw ymysg pobl Donostia yn enwedig.

Daeth twf cenedlaetholdeb yn y 60au a’r 70au cynnar o’r ffrynt ddiwylliannol (fel strategaeth arall, hynny yw llaw yn llaw a strategaeth wleidyddol y PNV ac eraill) cerflunwyr rhyngwladol fel Chillida ac Oteiza , neu trwy unigolion oedd yn canu caneuon yn yr iaith: Mikel Laboa , Benito Lertxundi ac eraill, er enghraifft yn Ez Dok Amairu– yn hynny o beth, debyg hefyd i dwf cenedlaetholdeb y canwr-awdur yma yng Nghymru (Dafydd Iwan, Meic Stevens et al).

Felly mae’n bwysig hefyd meddwl am y twf a ddigwyddodd mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig dawns Basgaidd yn y cyfnod, a sut roedd hyn yn plethu i mewn i weithgareddau o ddiwylliannau tu oedd o bosib tu allan i’r wladwriaeth arferol. Dwi’n amau hefyd fod hyn yn cael ei gysidro’n bwysig fel ymgais i geisio dod ac Ewrop yn agosach ar ôl y rhyfel.

cyfweliadau positif

Di bod yn cyfweld yn Rondo a gyda cwpwl yn Cwmni Da, ac mae’n swnio fel fod ethos da iawn yma gan y cwmniau yma tuag at ddefnyddio cerddoriaeth o Gymru gymaint a phosib – mae rhai yn ei weld yn ddyletswydd arnyn nhw. Oes, mae na broblemau gyda’r gost, ond y peth mwyaf yw gallu cael hyd i popeth yn hawdd, fel mae’n bosib ei wneud gyda gwasanaethau eraill. Mae ‘na agwedd agored iawn i’w glywed gan bobl, ac mae rhaglenni fel Rownd a Rownd yn agored i gynnwys gymaint a phosib.

Sgwennu hwn yn y Galeri, dros lobscows – dwi di gallu hysbysebu rhywfaint ar y digwyddiad CULT a’r lawns i’r toolkit hefyd.

cyfweliadau positif

Di bod yn cyfweld yn Rondo a gyda cwpwl yn Cwmni Da, ac mae’n swnio fel fod ethos da iawn yma gan y cwmniau yma tuag at ddefnyddio cerddoriaeth o Gymru gymaint a phosib – mae rhai yn ei weld yn ddyletswydd arnyn nhw. Oes, mae na broblemau gyda’r gost, ond y peth mwyaf yw gallu cael hyd i popeth yn hawdd, fel mae’n bosib ei wneud gyda gwasanaethau eraill. Mae ‘na agwedd agored iawn i’w glywed gan bobl, ac mae rhaglenni fel Rownd a Rownd yn agored i gynnwys gymaint a phosib.

Sgwennu hwn yn y Galeri, dros lobscows – dwi di gallu hysbysebu rhywfaint ar y digwyddiad CULT a’r lawns i’r toolkit hefyd.