Newydd fod yn gweithio gyda chwmni teledu ar gyfweliadau o Wlad y Basg, rhai gyda grŵp dawns, Gero Axular , fydd yn dod i eisteddfod Llangollen wythnos nesaf, dod a thipyn o atgofion personol am y lle ond hefyd sylweddoli fod yna stori dda arall i’w adrodd am gysylltiadau’r wyl gydag Euskal Herria.
Dwi’n cofio siarad gyda phobl hyn pan oeddwn i’n byw yn Donostia / San Sebastián, a chanfod eu bod nhw’n gwybod am eisteddfod Llangollen, a mwy na hynny, yn cysidro’r wyl yn un bwysig dros y blynyddoedd. Ond i fod yn onest, hyd i fi drio cyfieithu ychydig o gyfweliadau i wythnos diwethaf a gwneud bach o ymchwil, nes i’m sylweddoli faint . Mae’r rhestr o gorau a grwpiau dawns sydd wedi ennill dros y blynyddoedd yn ddigon parchus o ran ei faint, gyda rhai o’r grwpiau yma dal yn bodoli, a gyda phresenoldeb neu hanes ar gael ar y we:
Coro Easo , San Sebastián (côr dynion, 1949)
Coro Maitea, San Sebastián (côr merched, 1949),
Agrupacion Coral, Elizondo ( parti canu, 1952),
Agrupacion Coral, Elizondo ( côr cymysg, 1952)
Grupo de Danzas Vascas Goizaldi, (parti dawnsio, 1956)
Andra Mari, Galdacano (parti dawnsio, 1968)
Eskola, San Sebastián (parti dawnsio, 1991)
Kresala Euskal Dantza Taldea, San Sebastian (parti dawnsio, 1997)
Ond dwi’n meddwl fod y pwysigrwydd yn dod o’r rhai wnaeth ennill yn y 40au, 50au a 60au, pan oedd gorthrwm Franco o ddiwylliant Basgaidd ar ei anterth. Byddai’r ychydig oedd yn cael mentro tu allan i’r wlad yn y cyfnod yn mynd a neges am eu diwylliant oedd yn un yn llythrennol tu hwnt i afael Franco yn ystod wythnos yr eisteddfod. Roedd y cof yma dal yn fyw ymysg pobl Donostia yn enwedig.
Daeth twf cenedlaetholdeb yn y 60au a’r 70au cynnar o’r ffrynt ddiwylliannol (fel strategaeth arall, hynny yw llaw yn llaw a strategaeth wleidyddol y PNV ac eraill) cerflunwyr rhyngwladol fel Chillida ac Oteiza , neu trwy unigolion oedd yn canu caneuon yn yr iaith: Mikel Laboa , Benito Lertxundi ac eraill, er enghraifft yn Ez Dok Amairu– yn hynny o beth, debyg hefyd i dwf cenedlaetholdeb y canwr-awdur yma yng Nghymru (Dafydd Iwan, Meic Stevens et al).
Felly mae’n bwysig hefyd meddwl am y twf a ddigwyddodd mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig dawns Basgaidd yn y cyfnod, a sut roedd hyn yn plethu i mewn i weithgareddau o ddiwylliannau tu oedd o bosib tu allan i’r wladwriaeth arferol. Dwi’n amau hefyd fod hyn yn cael ei gysidro’n bwysig fel ymgais i geisio dod ac Ewrop yn agosach ar ôl y rhyfel.