Hwn di’r olygfa o’r swyddfa dros y deuddydd diwethaf yn y Galeri……
Y sgwrsio gyda pobl am y prosiect yn mynd yn dda, wedi gallu recordio dipyn o rhain i allu pigo’r pwyntiau pwysig i’r ymchwil. Yn sicr, fel sydd wedi ei grybwyll yn barod, mae’n ymddangos fod pawb isio un lle hawdd i fynd i chwilio am gerddoriaeth, gyda costau (isel) clir – ond sut bydda hyn yn gweithio wedyn ar lefel y cerddoriaon ochor arall? Lot awgrymiadau gan bobl, felly byddai’n pigo rhain i’r adroddiad wythnos nesaf.
Mae cost ac amser yn ffactorau mawr, a’r shift i gwmniau cymeryd fwy o gyfrifoldeb am gynnwys (o S4C) wedi golygu newidiadau dros y blynyddoedd diwethaf, gyda tueddiad i gael mwy o buy-outs etc. Y cwestiwn sy’n codi yn aml yw’r cwestiwn ‘1940s french accordeon played by clown’ : os mai dyma beth mae cynyhyrchydd/golygydd isio i eitem, pam mynd i chwilio am ddeunydd o Gymru, pan does dim byd ‘cymreig’ am y peth a mae’n haws a llai o hassle ei gael o rhywle arall ar y funud…….un awgrym oedd sustem haws i gomisiynu cerddorieth yn sydyn fel hyn, un pwynt o gyswllt i gerddorion a chynhyrchwyr. Mae’r cwesrtiwn o faint mae pobl wedi trwytho eu hunain mewn diwylliant cymreig yn codi ei ben dro ar ol tro hefyd.
Hefyd, wedi dod yn ymwybodol o bobl sydd yn barod wedi trio gwneud rhywbeth am y broblem yn eu ffordd eu hunain e.e. Traciau Cymraeg – Nici wedi rhoi fi ar drywydd Catrin ac Emyr Rhys/ARAN felly fyddai yn trio tracio nhw i lawr nes ymlaen ar bod yn Barcud.
Hyd hyn, wedi siarad gyda pobl sydd mwy ar yr ochor gynhyrchu, ond heddiw am gael sgwrs gyda rhywun sy’n dybio lot o raglenni a sydd yn cael dipyn o fewnbwn i’r ‘feature music’. Golwg agosach felly ar peth o’r mechanics o sut mae cerddoriaeth yn cael ei ddewis wrth dybio.